Rhan amser, 18.5 awr yr wythnos
Cytundeb parhaol
Gradd E: Cyflog cychwynnol o £28,143 (£56,286 y flwyddyn llawn amser)
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.
Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).
Am y rôl
Mae Pennaeth Dawns yn rôl arweinyddiaeth strategol sy'n canolbwyntio ar yrru datblygiad ac adfywiad sector dawns Cymru. Gan adrodd i Ddirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, byddwch yn hyrwyddo amrywiaeth a rhagoriaeth ar draws pob ffurf dawns. Byddwch yn rheoli tîm arbenigol, yn llunio blaenoriaethau polisi a buddsoddi, ac yn meithrin partneriaethau cryf i gefnogi ecosystem dawns fywiog a gwydn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan ymgorffori blaenoriaethau allweddol fel yr iaith Gymraeg, gweithredu ar yr hinsawdd, a chynhwysiant.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol yn y sector dawns gyda chefndir mewn ymarfer, cyfeiriad creadigol, neu reolaeth weithredol o fewn cymuned ddawns Cymru. Gyda gwybodaeth ddofn am ddeinameg a pholisi diwylliannol y sector dawns, rydych chi'n rhagori wrth adeiladu cymunedau creadigol amrywiol a chyflwyno fframweithiau strategol sy'n meithrin talent a rhagoriaeth artistig. Yn fedrus mewn adeiladu partneriaethau a chydweithio traws-sector, rydych chi'n dod ag angerdd dros hyrwyddo dawns fel ffurf gelf hanfodol ac ymrwymiad i ymgorffori gwerthoedd diwylliannol a chynaliadwyedd Cymru yn eich gwaith.
Yr Iaith Gymraeg
Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg yn sgil penodi os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Er nad oes disgwyl i chi fod yn gallu’r Gymraeg wrth geisio, rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach. Mae stori pawb gyda’r iaith yn wahanol ac rydym yn cydnabod bod lefelau gallu a hyder yn amrywio o berson i berson. Byddwn yn sicrhau’r gefnogaeth berthnasol i gynyddu neu ddysgu sgiliau Cymraeg.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.
Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.
Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 5yh, Dydd Gwener 8fed Awst 2025
Cyfweliadau: 28ain o Awst 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd)
Gweithio hyblyg
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.
Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.