Dafydd Rhys, Prif Weithredwr
Mae Dafydd wedi cael gyrfa hir yn y diwydiant teledu fel cynhyrchydd cynnwys a darlledwr. Dechreuodd ei yrfa gyda HTV Cymru cyn symud i'r sector annibynol. Mae hefyd wedi cael swyddi fel Comisiynydd Golygyddol yn S4C, Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel tan Hydref 2016, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydol Aberystwyth a Chadeirydd AM - ap digidol y sector gelfyddydol yng Nghymru 2021/22.
Dechreuodd yn y swydd hon yn Hydref 2022.
Lorna Virgo, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Busnes
Dechreuodd Lorna ar ei gyrfa gyda PwC Caerdydd a hithau newydd raddio yn 2003. Yno bu’n canolbwyntio ar archwiliadau yn y sector preifat ac am 3 blynedd aeth ar secondiad i swyddfa Brisbane hefyd. Yn ôl yng Nghaerdydd, bu'n rheoli a chynyddu’r tîm paratoi cyfrifon newydd.
Yn 2014 ymadawodd â PwC i fod yn Arweinydd Strategol gyda’r elusen gydraddoldeb i fenywod, Chwarae Teg. Am 3 blynedd bu’n arwain y tîm cyllid a chorfforaethol. Yn ddiweddar bu’n gweithio ar lefel uwch gyda Heddlu Gwent ac yn Gyfarwyddwr Cyllid yn Amber, cwmni ymgynghori ar faterion sero net.
Bu hefyd yn gwirfoddoli a phwyllgora gan gynnwys:
• Cadeirydd Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen
• aelod o Bwyllgor Archwilio a Pherygl POBL
• sefydlu banc bwyd yn ei hardal leol - Griffithstown, Pont-y-pŵl
Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau
Dechreuodd Catryn Ramasut yn ei swydd yn Hydref 2024.
Daw ag arweinyddiaeth strategol ac arbenigedd entrepreneuraidd i’r swydd newydd hon, daw y ogystal â 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol ac mewn sefydliadau celfyddydol.
Fel gwraig o dreftadaeth gymysg a aned yng Nghaerdydd, a sy’n siarad Cymraeg, mae’n cynnig persbectif unigryw ar dirwedd ddiwylliannol Cymru.
Yn ei rôl flaenorol fel cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr ‘ie ie Productions’, enillodd Catryn wobrau am gynhyrchu ffilmiau oedd yn cyfuno gwahanol ffurfiau celfyddydol ac yn arddangos diwylliant Cymreig yn fyd-eang. Mae rhai o'i phrosiectau nodedig yn cynnwys "Separado!", "Rockfield: The Studio on the Farm", a "Black and Welsh".
Mae profiad arweinyddiaeth Catryn yn ymestyn y tu hwnt i’w gwaith creadigol. Hi oedd Cadeirydd cyntaf Cymru Greadigol, roedd yn aelod o fwrdd Canolfan Celfyddydau Chapter am 10 mlynedd, ac mae’n cynrychioli Cymru ar Gyngor Diwydiannau Creadigol DCMS. Yn y swyddi hyn, mae Catryn wedi dangos ei gallu i gynnig cyfeiriad strategol, i feithrin twf yn y diwydiannau creadigol, ac i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr y Celfyddydau, mae Catryn wedi ymrwymo i adfywio sector celfyddydau Cymru. Mae’n ymdrechu i gyfuno sensitifrwydd diwylliannol, arloesedd strategol, ac arweinyddiaeth weledigaethol i lunio dyfodol blaengar i’r celfyddydau yng Nghymru. O dan ei chyfarwyddyd, bydd y celfyddydau yng Nghymru yn cofleidio amrywiaeth ac yn meithrin creadigrwydd ar draws y genedl.